Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 1:              Dylai enw OS ddangos yn fanwl gywir beth yw natur yr OS a thynnu gwahaniaeth rhyngddo a phob OS arall. Wrth baratoi’r OS, rhoesom ystyriaeth ofalus i’r pwynt sy’n gofyn a ddylai’r enw gyfeirio hefyd at ddarpariaeth arbed. Daethom i’r casgliad, gan fod yr holl ddarpariaeth sydd yn Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2024 yn ganlyniadol ar Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, ei bod yn briodol nad ydym ond yn cyfeirio at ddarpariaeth ganlyniadol. Nodwn y buasai cynnwys cyfeiriad at ddarpariaethau arbed yn yr enw yn ddewis arall posibl, ond yn yr achos hwn penderfynwyd na fyddem yn gwneud hynny.